Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 11 Mawrth 2019
Amser:
13.19 -
16.24
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5271
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Neil Hamilton AC Vikki Howells AC Rhianon Passmore AC Adam Price AC Jenny Rathbone AC |
Tystion: |
Len Richards, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro Steve Curry, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro (Saesneg yn unig) Caroline Bird, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro Judith Paget, Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan Dr Paul Buss, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan Claire Birchall, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan |
Swyddfa Archwilio Cymru: |
Dave Thomas Mike Usher Andrew Doughton |
Staff y Pwyllgor: |
Meriel Singleton (Ail Glerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr aelodau i'r Pwyllgor.
2.1 Nodwyd y papur.
3.1 Cafodd yr aelodau dystiolaeth gan Len Richards, Prif Weithredwr, Steve Curry, Prif Swyddog Gweithredu, a Caroline Bird, Dirprwy Brif Swyddog Gweithredu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro fel rhan o'r ymchwiliad i reoli apwyntiadau cleifion allanol ar draws Cymru.
3.2 Cytunodd Len Richards i anfon rhagor o wybodaeth am y canlynol:
· Canlyniadau'r gwaith archwilio mewnol/clinigol diweddar a wnaed ynghylch apwyntiadau dilynol cleifion allanol;
· Cadarnhad a fydd yr holl optometryddion a leolir yn ardal Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro yn gallu atgyfeirio cleifion ar gyfer apwyntiad ymgynghorydd yn electronig pan gaiff y system ei chyflwyno yn ystod chwarter cyntaf blwyddyn ariannol 2019-20;
· Nifer y cleifion y tu allan i'r ardal sy'n aros am atgyfeiriad claf allanol ar hyn o bryd, ynghyd â dadansoddiad o'r meysydd gwasanaeth.
4.1 Cafodd yr aelodau dystiolaeth gan Judith Paget, Prif Weithredwr, Dr Paul Buss, Cyfarwyddwr Meddygol, a Claire Birchall, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan fel rhan o'r ymchwiliad i reoli apwyntiadau cleifion allanol ar draws Cymru.
4.2 Cytunodd Judith Paget i anfon rhagor o wybodaeth am hyd y cyfnod roedd y system deledermatolegol wedi bod yn weithredol.
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6.1 Trafododd yr aelodau'r dystiolaeth a gafwyd.
7.1 Nododd yr aelodau'r ohebiaeth. Cytunwyd y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol/Prif Weithredwr GIG Cymru, yn gofyn am ei farn am Adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol, ynghyd â'r gwariant ar staff asiantaeth a nodwyd yn Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2018-19 y Bwrdd Iechyd, a thrafod y mater eto yn nhymor yr hydref.